Dychwelwch i'r dudalen adref Dychwelwch i'r dudalen adref
Danfonwch E-Bost atom
Cefnogaeth Ar Lein Telemat Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Gwrandewch arnom yn Trydar
Cefnogaeth Technegol
Diogelwch TG
Bandeang
Meddalwedd a caledwedd

DIOGELWCH TG

PA UN O'R RHAIN YDYCH CHWI?

  • Mae fy musnes yn ddiogel – rwyf wedi cloi y drws a rhoi'r larwm arno
  • Mae fy musnes yn ddiogel – does gan neb ddiddordeb yn fy systemau busnes

MAE'CH BUSNES YN RHEDEG AR WYBODAETH.
YDY'R WYBODAETH YMA'N DDIOGEL?

Mae gwybodaeth yn adnodd hanfodol i bob busnes heddiw ac yn allweddol i dyfiant a llwyddiant. Felly, mae'n hollbwysig i sicrhau fod yr wybodaeth sydd ar eich systemau TG yn ddiogel.

Diddymir larymau, gwarchodwyr a chamerau Cylch Cyfyng os yw'ch diogelwch TG yn annigonol. Mae un camgymeriad bach yn ddigon i greu problem fawr.

Erbyn hyn mae gan y mwyafrif o swyddfeydd fynediad i'r rhyngrwyd sy'n golygu y gall pob bwrdd gwaith fod yn fynediad posib i firwsau neu drojans, ac mae'r bygythiadau hyn yn lluosogi gydag ymlediad bandeang, gliniaduron a chyfiriaduron llaw sydd ymlaen drwy'r amser. Gall defnydd esgeulus o ebost, y rhyngrwyd neu gysylltiadau di-wifr heb eu diogelu'n ddigonol achosi problemau. Mae Telemat yn darparu cyngor a chefnogaeth i ddiogelu'ch systemau yn yr hinsawdd cynyddol-gymleth hwn.