Mae Telemat yn gwmni TG sefydledig sy'n arbenigo mewn Cefnogaeth a Datrysiadau TG i fusnesau ledled Cymru. Rydym wedi gweithio gydag ystod o fusnesau bach a mawr, elusennau a'r sector gyhoeddus. Darparwn becyn cyflawn o gefnogaeth technegol TG am brisiau rhesymol sy'n addas at anghenion a chyllideb eich busnes.
Mae gan ein technegwyr dwyieithog medrus brofiad helaeth mewn cynllunio a gweithredu isadeileddau rhwydwaith a gweinydd. Pa un ai ydych yn gosod isadeiledd TG newydd, yn symud swyddfeydd neu'n disodli hen system – fe wrandawn ar eich gofynion gan gynnig cyngor a datrysiadau ymarferol ar sail eich anghenion busnes.

©Cefnogaeth TG Telemat 2011 | Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd
Cefnogaeth TG Telemat yn gweithio dros Gymru