Date: 18th June 2008
Mae Bythynnod o Ansawdd (‘Quality Cottages’) a leolir yn Sir Benfro, ger Tyddewi, yn darparu tai gwyliau o’r safon gorau leldled Cymru. Mae ansawdd yn thema sy’n rhedeg drwy bob agwedd o’r mudiad. Archwilir pob eiddo gan gynrychiolydd o’r cwmni cyn y caiff ei gynnwys yn y portffolio. Gwneir hyn bob blwyddyn, a dim ond 10% o’r eiddo yr edrychir arno fydd yn ymddangos yn y catalog.
Gosodir yr un safonau llym i staff a chyflenwyr gan Mr Leonard Rees, y Rheolwr Gyfarwyddwr. Cyn derbyn cytundeb i gyflenwi a chefnogi TGaCh ar gyfer y cwmni, bu raid i Telemat fynd drwy drefn gyfweld drwyadl.
Bu’r sefydliad yn masnachu o’r un safle hardd ers dros 40 mlynedd. Lleolir y swyddfeydd mewn hen adeiladau fferm yn yr ardal lle bu teulu Mr Rees yn ffermio am dros 600 mlynedd.
Yn y swyddfeydd mae adran Telewerthu lle gall y staff ymroddedig fwynhau mynediad Bandeang a sgriniau monitorau deuol wedi eu gosod gan Telemat.
Yn wir, treuliwyd y misoedd cyntaf mewn perthynas â Quality Cottages yn moderneiddio’r system TG. Roedd Mr Rees yn llwyr ymwybodol ei fod yn talu am y gorau a dyna oedd ei ddymuniad! Gwnaethom yn siwr y byddai ei fuddsoddiad yn talu ar ei ganfed.
Rydym yn ymwybodol o hyd fod pob mudiad yn dibynnu ar ddata. Felly rydym yn gweithredu athroniaeth ‘gofal piau hi’ ar gyfer diogelwch a system wrth gefn. Adlewyrchir y mantra hyn gan Quality Cottages. Rydym wedi sefydlu systemau wrth gefn a gefnogir gan arferion gwaith gwych Quality Cottages. Mae eu ystafell gweinydd yn agoriad llygaid!
Gosodwyd gwasanaeth Cefnogi unigryw ar gyfer Quality Cottages. Gan fod y swyddfa werthiant yn gweithio o 8am hyd 8pm ac ar benwythnosau, rydym wedi gosod system alw-allan i’w cefnogi tu allan i oriau gwaith arferol.
Dywed Emyr Bateman, technegydd Telemat,
“Mae Quality Cottages bob amser yn lle hyfryd i ymweld ag e’. Mae Mr Rees wedi ein cynorthwyo i greu perthynas waith arbennig ac fe’n gwahoddir i bartïon staff hyd yn oed! Buddiol, wrth gwrs, yw fod y busnes yn gwybod yn union lle mae’n anelu a beth sydd angen ei wneud ar bob cam er mwyn cyrraedd yna.’
Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9DB.
General Enquiries: 01239 712345 - Sales and Customer Care: 01239 712344
Email Enquiries: enquiries@telemat.co.uk - Technical Helpdesk: helpdesk@telemat.co.uk
![]() |
![]() |
![]() |
|
| ISO 9001:2000 |