in


enquiries@telemat.co.uk     01239 712345 home  |   about us  |   where are we?  |  customer login  |  contact us
Yn Defnyddio TG i Lwyddo

Yn Defnyddio TG i Lwyddo

Date: 12th June 2008

Lleolir Cylch Peiriannau Penfro (Pembrokeshire Machinery Ring - PMR) a ffurfiwyd ym 1991, yng nghysgod Cadeirlan Tyddewi.

Mae PMR, sy’n sefydliad cydweithredol o eiddo’r aelodau, yn tynnu ffermwyr a chyflenwyr amaethyddol at ei gilydd ac yna’n gweithredu fel cydlynydd i gysylltu tasg arbennig efo’r aelodau sy’n berchen ar yr offer angenrheidiol i gwblhau’r gwaith.  Yn ogystal â gostwng costau buddsoddi mewn peiriannau a chostau eraill, mae’n cynyddu’r farchnad posibl am waith cytundeb.

Mae PMR hefyd yn trefnu staff llanw a gwasanaethau.  Mae gan aelodau ystod eang o gymwysterau i’w cynnig: bugeiliaid anifeiliaid, cneifio defaid, gofalu am dai a hyd yn oed chwaraewr bagbibau!

Ar hyn o bryd mae dros 1100 o aelodau sydd yn creu mwy o bwer i’r sefydliad i brynu tanwydd a bwydydd anifeiliaid.  O’r dechreuad mae PMR wedi cydnabod pwysigrwydd TG oddi fewn i’r mudiad. 

Felly buddsoddwyd mewn basdata arbenigol i ymdopi  gyda holl agweddau’r busnes o ddydd i ddydd: aelodaeth, hanes, archebion, anfonebu ac argaeledd peiriannau a hyd huriad.  Defnyddir system ‘Sage’ o gadw cyfrifon i gydfynd â hyn.

Sylweddolodd Graham Perkins, Rheolwr PMR, fod busnes sy’n ddibynnol ar TG angen cefnogaeth ymroddedig ac arbenigol, a dyma a’i sbardunodd i alw ar Telemat.

Wedi ei leoli yng Nghastellnewydd Emlyn, mae Telemat yn darparu ystod gyflawn o weithrediadau TG i fusnesau ledled y Deyrnas Gyfunol.  Trefnwyd Cytundeb Lefel Gwasanaeth i PMR gyda Telemat ac nid ydynt wedi edrych yn ôl ers hynny.

Dywedodd Graham ‘Dangosodd Telemat ddealltwriaeth o’n busnes o’r dechreuad – yn enwedig costau!’ Ychwanegodd ‘Mae’n hollbwysig i ni fedru parhau i weithio yn dawel ein meddwl fod ein TG yn ddiogel a dibynadwy. Bydd Telemat yn ein cadw ar waith  ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyson i rwystro problemau.’

Mae cytundebau cynnal a chadw Telemat yn cynnwys cefnogaeth di-derfyn ar ffôn ac ar eBost yn ogystal ag ymweliadau â’r safle a chefnogaeth o bell.

Dywedodd Graham, ‘Y peth pwysicaf i’r busnes oedd cael ein cyflwyno i’r Bandeang. Gosododd ‘Telemat wasanaeth sy’n caniatau i’n staff Maes Cefnogol ddefnyddio’n rhwydwaith a gweithredu fel petaent yn y swyddfa gyda ni. Maent hefyd yn monitro’n systemau i atal ymosodiadau Rhyngrwyd ac i sicrhau fod trefniadau wrth gefn yn gweithio’n iawn.’

I derfynu, dywedodd Graham ‘Mae cael cytundeb Cynnal a Chadw gyda Telem@ wedi sicrhau fod gennym y wybodaeth a’r profiad i ofalu am ein buddsoddiad fel ein bod ni’n medru canolbwyntio ar redeg y busnes.’

View all latest case studies

 

 

Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9DB.

General Enquiries: 01239 712345 - Sales and Customer Care: 01239 712344

Email Enquiries: enquiries@telemat.co.uk - Technical Helpdesk: helpdesk@telemat.co.uk

EQA IIP Test Centre
Iaith Busnes gyda siaradwyr Cymraeg
ISO 9001:2000    

Warning: mysql_free_result(): supplied argument is not a valid MySQL result resource in /home/fhlinux146/t/telemat.co.uk/user/htdocs/case_study.php on line 188