in


enquiries@telemat.co.uk     01239 712345 home  |   about us  |   where are we?  |  customer login  |  contact us
Tyfu drwy Bartneriaeth

Tyfu drwy Bartneriaeth

Date: 16th June 2008

Tyfodd busnes sy’n cynhyrchu a dosbarthu bwydydd anifeiliaid anwes yn Sir Gaerfyrddin i’r fath raddau fel ei bod eisoes wedi comisiynu peiriant cynhyrchu newydd.

Busnes deuluol yng ngwir ystyr y gair yw Cambrian Pet Foods o Bencader.  Fe’i sefydlwyd gan Mr David Davies ugain mlynedd yn ôl.  Caiff gefnogaeth gan ei feibion Jonathan a Richard sydd, ill dau, yn Gyfarwyddwyr.  Mae Cambrian Pet Foods, sy’n enwog yn bennaf am y brand Gelert, yn dibynnu’n helaeth ar Dechnoleg Gwybodaeth ar gyfer bas-data cwsmeriaid, o ran cysylltu, cynhyrchu a dosbarthu, yn ogystal â chyfrifon. 

Mae arbenigedd Telemat wedi galluogi Cambrian Pet Foods i ddefnyddio TG fel offeryn amhrisiadwy i reoli busnes sy’n cynyddu o hyd. Pan gymerwyd drosodd yr hen hufenfa yn Llangadog, darparodd Telemat  ddull diogel o gyfathrebu rhwng Llangadog a Phencader, gan beri integreiddio cyflym. Yn ddiweddar enillodd Cambrian Pet Foods gytundeb i gyflenwi cadwyn o arch-farchnadoedd pwysig gyda‘u bwyd arbennig i anifeiliaid anwes. O ganlyniad, mae’r cwmni wedi cychwyn prosiect datblygu gwerth £2¼m.

Mae Telemat yn edrych ymlaen i weithio gyda’r cwmni eithriadol lwyddiannus hwn i’w hwyluso i gynyddu’n ddi-drafferth ac wrth edrych ymlaen i’r dyfodol. 

Dywedodd Clive Davies, Rheolwr Gweithrediadau Telemat:

‘Rydym yn hynod falch o’r berthynas sydd wedi datblygu rhyngom ni a Cambrian Pet Foods ac mae’r ehangiad newydd yn amser cyffrous nid yn unig iddynt hwy ond i’r ardal gyfan.’

Dywedodd Mr David Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Cambrian Pet Foods:

“Wrth edrych yn ôl dros y 25 mlynedd ers y cychwyn, fe sylweddolwn nad oeddem yn meddwl y buasem yn paratoi ein cynnyrch maethlon ar gyfer anifeiliaid anwes ar y fath raddfa.  Gwaith caled pob un aelod o’n staff, y gefnogaeth enfawr yr ydym wedi ei fwynhau gan ein cwsmeriaid a’n cyflenwyr, ac hefyd y cyngor doeth a synhwyrol gafwyd gan ein ymgynghorwyr busnes fu’n cyd-weithio â ni yn ddyddiol, sydd wedi ein cynorthwyo i gyrraedd y fan hyn heddiw.”

View all latest case studies

 

 

Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9DB.

General Enquiries: 01239 712345 - Sales and Customer Care: 01239 712344

Email Enquiries: enquiries@telemat.co.uk - Technical Helpdesk: helpdesk@telemat.co.uk

EQA IIP Test Centre
Iaith Busnes gyda siaradwyr Cymraeg
ISO 9001:2000    

Warning: mysql_free_result(): supplied argument is not a valid MySQL result resource in /home/fhlinux146/t/telemat.co.uk/user/htdocs/case_study.php on line 188