Mae bandeang wedi trawsnewid y modd y defnyddiwn y rhyngrwyd a sut y rhedwn fusnesau. Gallwn, erbyn hyn, ddod o hyd i wybodaeth ar amrantiad, sgwrsio drwy negeseuon, lawrlwytho cerddoriaeth, gwylio teledu o ansawdd da a ffonio drwy'r cyswllt bandeang.
Mae busnesau'n dibynnu'n drwm ar y rhyngrwyd i weithredu o dydd i ddydd, felly mae cyswllt cyflym yn hanfodol. Yn y Gymru wledig gall hyn fod yn dipyn o her gan nad oes gan bobman fandeang gweithredol, neu'r un mor rhwystredig (ymron i'r un graddau beth bynnag!) pan na dderbynnir hyd at y cyflymder 8MB a hysbysebwyd. Rydym yn gweithio gyda llawer o fusnesau ledled Cymru sydd mewn ardaloedd araf neu lle nad oes cysylltiad, er mwyn delio gyda'r problemau drwy ddarparu dulliau gwahanol o dderbyn bandeang. Medrwn drafod eich opsiynau gyda chwi ac hefyd ddarparu datrysiadau cost effeithiol i gyflymu eich bandeang.
©Cefnogaeth TG Telemat 2011 | Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd
Cefnogaeth TG Telemat yn gweithio dros Gymru